top of page

Mr. Tipster yn helpu gamblwyr i guro’r bwci yn ystod mis Chwefror


Mae gamblo’n broblem gynyddol i nifer a phan ei fod yn eithafol mae nid yn unig yn affeithio ar y gamblwr ond hefyd ar y teulu, ffrindiau a chymdeithas yn gyffredinol mewn nifer o ffyrdd dinistriol. Mae miliynau o bunnoedd yn cael eu gamblo bob blwyddyn yn y DU ar amrywiol fathau o gamblo ond y mwyaf o ddigon yw Terfynau Betio Fixed Odds. (FOBTs).

Mae ail ymgyrch ‘Mis Bach Dim Isio Bet’, sef menter Curo’r Bwci dan arweiniad Stafell Fyw, Caerdydd, yn anelu at annog y rhai sy’n gamblo - naill ai ar-lein neu yn y siop bwci - i addo peidio â gamblo yn ystod mis Chwefror 2018. Eleni, mae cymeriad newydd, Mr Tipster, yn mynd i roi awgrymiadau dyddiol ar sut i guro’r awydd i gamblo.

Mae gwefan benodol www.flutterfree.com <http://www.flutterfree.com> yn rhoi cyfle i gofrestru addewid i beidio â gamblo drwy gydol mis Chwefror. Mae pecyn codi arian ar gael ar-lein am sut i fod yn rhan o’r ymgyrch hon. Anogir y rhai sy’n addo hefyd i anfon hun-lun bawd i fyny i gefnogi’r ymgyrch drwy #flutterfreefeb.

Dywedodd Wynford Ellis Owen, sy’n arwain y fenter Curo’r Bwci ar ran Stafell Fyw Caerdydd, “Mae ‘Mis Bach Dim Isio Bet’ yn awr yn ei ail flwyddyn ac nid yw’r angen am ddelio â phla’r broblem gamblo wedi diflannu. Hoffem allu annog cynifer o bobl ag sy’n bosibl i feddwl ddwy waith cyn gosod bet a bydd ein cymeriad Mr. Tipster yn helpu drwy gynnig awgrymiadau dyddiol syml ar sut i roi’r gorau i gamblo. Mae’r rhain yn cynnwys peidio â mynychu siopau betio, cysylltu â chyflenwyr band eang i atal mynediad i unrhyw un o’r 18 safle a mwy ynghyd â dileu unrhyw apps gamblo ar ddyfeisiau.

“Mae’r data ar gyffredinolrwydd gamblo yng Nghymru yn wael. Ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, mae Stafell Fyw Caerdydd yn amcangyfrif bod tua 114,000 yng Nghymru mewn perygl ac yn gamblwyr â phroblem gyda chynifer â 12,000 yn cael eu hystyried fel rhai ag anhwylder gamblo. Mae ffigyrau’r Comisiwn Gamblo’n dangos bod dros £1.62biliwn wedi’i osod ar Derfynau Betio Fixed Odds (FOBT) yn unig, cyfartaledd o £675 i bob oedolyn gyda cholled gyffredinol o £51.5 biliwn.

“Er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd gan Gymru gyfrifoldeb dros yr holl FOTBs newydd, nid yw’r 1500 terfyn sy’n gweithredu’n barod yn cael eu datganoli a byddan nhw’n dal o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth DU. FOBTs yw un yn unig o’r cyfleoedd gamblo dirifedi sydd ar gael.

“Gobeithio y bydd yr ymgyrch Chwefror Dim Isio Bet yn datblygu’n astell ddeifio i nifer allu estyn allan i gael helpu i ddelio â’u problemau gamblo eu hunain. Mae ein gwaith, fodd bynnag, yn cario ymlaen drwy gydol y flwyddyn a byddwn yn cynnal ein 4edd Cynhadledd Genedlaethol Cymru ‘Curo’r Bwci’ ar gamblo eithafol yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar 20 Mehefin 2018.

“Bydd thema eleni ‘Mae pob peth yn y Meddwl’ yn rhoi cyfle i sgwrsio a thrafod y gwaith sy’n cael ei wneud yn Stafell Fyw Caerdydd, i archwilio seicoleg gamblo ynghyd â’r gwaith ymchwil a’r arfer gorau diweddaraf wrth ddelio â’r broblem gamblo. Bydd arbenigwyr byd-eang yn y cyfarfod i wneud hyn.“

Mae’r siaradwyr a gadarnhawyd ar gyfer y gynhadledd yn cynnwys Yr Athro Samantha Thomas o Brifysgol Deakin, Awstralia; Yr Athro Rebecca Cassidy o Goldsmiths, Prifysgol Llundain; Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr. Frank Atherton; Sarah Harrison, Prif Weithredwr y Comisiwn Gamblo; Dr. Henrietta Bowden-Jones, sy’n cynnal y Clinig Problem Gamblo Cenedlaethol yn Llundain, yr unig glinig GIG sy’n delio â dibyniaeth gamblo a Iain Corby, dirprwy Brif Weithredwr GambleAware.

Ychwanegodd Clive Wolfendale, Prif Weithreddwr CAIS Cyf, rhiant gwmni Stafell Fyw Caerdydd, “Mae barn synhwyrol o’r diwedd yn dechrau symud ar bla’r broblem gamblo yn y DU. Ein nod yw cadw Cymru ar flaen y gad o safbwynt gwaith ymchwil ac ymateb yn ein rhaglen o ddigwyddiadau Curo’r Bwci yn 2018.”

DIWEDD

I gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â Rhodri Ellis Owen yn Cysylltiadau Cambrensis ar 07885 416103 neu Rhodri@cambrensis.uk.com

Nodiadau i Olygyddion

Mae Curo’r Bwci (www.beattheodds.wales) yn wasanaeth arloesol a chwbl angenrheidiol yng Nghymru i helpu i ddelio â’r broblem gamblo. Nod menter Stafell Fyw Caerdydd/ CAIS, Curo’r Bwci yw darparu gwybodaeth gynhwysfawr ar sut i ddelio â gamblo eithafol.

Terfynau Betio Fixed Odds yng Nghymru

Ystadegau FOBT 2012 (ffynhonnell: Y Comisiwn Gamblo)

Roedd 1450 o beiriannau FOBT yng Nghymru yn 2012. Ar sail y ffigyrau hyn, cyfartaledd yr hyn oedd wedi’i gynwystlo ar bob peiriant oedd ychydig dros £1,000,000 y flwyddyn neu tua £3,000 y dydd. Roedd elw cyn treth ar bob peiriant tua £34,000.

Swm a gynwystlwyd Swm a gollwyd Swm a gynwystlwyd

yng Nghymru’n ar gyfer pob oedolyn

gyffredinol

£1.62bn £51.5m £675

Lloegr

£37.2bn £1.18bn £877

Yr Alban

£4.22bn £134m £995

DU (heb gynnwys G Iwerdd)

£43bn £1.37bn £867

Caerdydd (pob. 325,000)

£274m £8.7m £1053

Casnewydd (pob. 128,000)

£122m £3.9m £1191

Wrecsam (pob 70,000)

£62.8m £2m £1121

Bryste (pob. 430,000)

£376m £12m £1093

Coventry (pob. 325,000)

£185m £5.9m £711

Caeredin (pob. 485,000)

£421m £13.4m £1085

*Amcangyfrifir y boblogaeth o oedolion fel 80% o gyfanswm y boblogaeth.

Fel y gwelir o’r uchod, mae gamblo ar FOBTs yng Nghaerdydd, Casnewydd a Wrecsam yn hafal i ddinasoedd mwy poblog eraill yn Lloegr.

Mae Stafell Fyw Caerdydd yn ganolfan adfer yn y gymuned ac wedi’I lleoli yn 58 Heol Richmond Caerdydd. Ei nod yw cynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n cael anhawster gydag alcohol, cyffuriau, (wedi’u rhagnodi neu anghyfreithiol) neu unrhyw ddibyniaeth arall neu ymddygiad niweidiol.

Mae cysyniad Stafell Fyw Caerdydd (SFC) yn wahanol i unrhyw wasanaeth adsefydlu arall sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd yng Nghymru. Bydd y Ganolfan Adfer gofal dydd yn y gymuned yn darparu gofod diogel, mynediad hawdd ac anfeirniadol sy’n cynnig ystod o ymyraethau gan gynnwys cefnogaeth unigol a grŵp seicogymdeithasol cyfoed.


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Twitter Basic Square
bottom of page