top of page

Uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gamblo


Mae’r ymgyrch Mis Bach Dim Isio Bet ar fin dod i ben, ond i lawer o bobl sy'n delio â dibyniaeth gamblo mae’r ymgyrch yn gam cyntaf tuag at adferiad. Un ohonynt yw Karl (nid ei enw go iawn).

Mae hapchwarae erbyn hyn yn broblem fawr mewn cymdeithas. Mis Bach Dim Isio Bet yw ymgyrch newydd menter Curo’r Bwci sy'n anelu at annog y rhai sy'n gamblo - boed ar-lein neu mewn llefydd betio - i wneud adduned i roi'r gorau i gamblo yn ystod mis Chwefror 2017. Mae gwefan bwrpasol www.flutterfree.com yn darparu modd i gofrestru addewid i roi'r gorau i hapchwarae ym mis Chwefror a syniadau ar sut i gymryd rhan yn yr ymgyrch. Mae’r rhai hynny sydd wedi cofrestru hefyd yn cael eu hannog i anfon hun-lun gyda bodiau i fyny i gefnogi'r ymgyrch drwy #flutterfreefeb.

Mae gan yr oes ddigidol lawer o fanteision, ond i rai mae rhyfeddodau technoleg fel tanwydd sy’n gwneud cuddio cyfrinach gamblo hyd yn oed yn haws. Roedd ei ffôn clyfar a'i apps fel pasbort i Karl i fyd-eang o gamblo. Mae Karl yn cefnogi Mis Bach Dim Isio Bet, menter Curo’r Bwci o dan arweiniad Stafell Fyw Caerdydd, sy'n ceisio annog seibiant o fis o holl weithgareddau gamblo yn ystod Chwefror 2017 i godi ymwybyddiaeth o beryglon gamblo gormodol.

Meddai Karl, "Mae gan bawb bron ffôn clyfar y dyddiau hyn. Mae pobl yn gaeth I’w ffonau ble bynnag y maen nhw. Mae hapchwarae ar y ffôn mor hawdd y dyddiau hyn. Mae fel chwarae gêm gyfrifiadurol ac nid oes yn rhaid i chi adael eich tŷ a wynebu tabŵ'r bwci i roi bet.

"Ers amser maith dw i wedi dweud wrthyf fy hun y byddai cymryd rhan mewn gamblo yn syniad drwg. Rwy’n gefnogwr pêl-droed brwd ac mae’r hysbysebion gamblo I’w gweld ym mhob man a logos yn cael eu harddangos ar eu crysau. Roedd gen i gryn dipyn o wybodaeth am sut roedd y gêm yn gweithio ac yn y diwedd dechreuais fetio drwy ddefnyddio'r apps. Roedd ffrind i mi wedi ennill rhywfaint o arian ar y loteri tua’r un amser ag yr oeddwn I’n dechrau gamblo. O edrych yn ôl rwy'n credu y gallai hyn fod wedi fy sbarduno ychydig. Galwch chi hyn yn lwc dechreuwyr, ond un o fy metiau cyntaf oedd croniadur £5 ar ganlyniadau pêl-droed a lwyddodd, gan ennill ychydig dros £700"

"Roeddwn i’n parhau i fetio fel hyn am gryn amser, yn bennaf ar ddydd Sadwrn yn unig, heb unrhyw broblem fawr gan gadw fy ngwariant o fewn yr hyn y gallwn ei fforddio. Dim ond y llynedd ar ôl blwyddyn neu ddwy o gamblo y daeth yn broblem o bwys. Roeddwn yn cael problemau yn y gwaith ac yn gweld fy hun gyda llwyth o amser hamdden. Dechreuais chwarae betio. Pan nad yw’n mynd yn dda, mae’r dull hwn yn ei gwneud yn llawer haws i golli symiau mawr o arian o fewn cyfnod byr o amser. Pan fyddwch yn dechrau colli rydych yn mynd ar ôl y colledion ac mae'r straen cyson yn dechrau effeithio ar bob agwedd o’ch bywyd. Cyn bo hir roeddwn allan o boced cyn diwedd bob mis. Rydych yn dechrau ymddwyn yn wahanol i’r hyn y byddech fel arall wedi’i wneud, dweud celwydd pam eich bod yn benthyg arian ac yn cuddio'r straen rhag y bobl agosaf atoch. Yn y diwedd, llwyddais i roi’r gorau i gamblo ar ôl gweld y boen yr oeddwn wedi achosi i fy anwyliaid. Ar ôl ceisio cymorth roeddwn wedi cyfaddef fy mod wedi rhoi'r gorau i hapchwarae tra mewn gwirionedd nid oeddwn wedi llwyddo i wneud hyn. Collais fy arian i gyd ac roedd y cywilydd o orfod bod yn agored am fy mhroblem wedi fy ngalluogi i dderbyn bod gen i broblem ac roedd yn rhaid i mi roi'r gorau i hyn. Mae hapchwarae yn hwyl i ddechrau ond os na allwch ei reoli mae’r straen yn fuan yn ofnadwy.

"Pan fyddwch chi’n ennill arian ar app mae’r arian yn cael ei gadw mewn seiberofod i chi. Gall ennill fod yn drafferth gan fod yr arian fel arian Monopoly ac mae cynyddu maint eich betiau yn ymddangos fel penderfyniad llai peryglus. Ar yr adegau hyn, roedd yn fy arwain i wneud betiau mwy. Ar ôl ennill bet a cholli’r arian o fewn cyfnod byr o amser dechreuais ddefnyddio fy arian personol nes iddo ddiflannu i gyd. Defnyddio rhywbeth roedd eisoes gen i. Roedd yn cyrraedd i’r fan lle'r oedd, i bob pwrpas, yn cymryd drosodd fy mywyd 24 awr y dydd. Cefais fy hun yn betio ar chwaraeon eraill gan na allwn i ddod oddi ar y rollercoaster. Unrhyw beth o gêmau pêl-droed Awstralaidd yn y bore i bêl fâs Americanaidd dros nos - i gyd o gysur fy ngwely. Mae bob amser yno mewn ryw ffurf os ydych yn dymuno iddo fod.

"Rydw i mor falch ei fod yn awr allan yn yr agored. Yr oeddwn yn gaeth ar drên oedd allan o reolaeth ac roedd yn ymddangos yn haws parhau arno na cheisio neidio i ffwrdd. Mae bod ar y daith hon yn straen ac yn un nad ydych yn teimlo y gallwch rannu gydag unrhyw un. Byddwch yn dechrau dweud celwydd ac mae hyn yn mynd yn ddigwyddiad cyffredin, nid ydych hyd yn oed yn sylweddoli eich bod yn gwneud hynny; mae'n dod yn rhan o'ch bywyd. Rydych yn ceisio cuddio'r hyn yr ydych yn ei wneud ac o dan gymaint o straen bod gennych broblem drwy’r amser. Ond, does neb yn gwybod am y peth ac nid ydych yn gwybod sut i ddatrys hyn.

"Roedd rhaid i mi golli popeth i wynebu'r hyn yr oeddwn wedi’i wneud a chymryd y camau angenrheidiol i ddatrys hyn. Os bydd unrhyw un yn teimlo bod ganddo/ ganddi broblem yna po gyntaf y mae’n delio â hyn gorau oll. Mae'n rhaid i chi dderbyn eich bod wedi colli rheolaeth a cheisio’r help sydd ei angen arnoch. Edrychais ar-lein am gymorth a dod ar draws y Stafell Fyw yng Nghaerdydd. Rwyf wedi bod yn mynychu sesiynau ers mis Hydref 2016 ac nid wyf wedi gamblo ers hynny. Mae'r newid cadarnhaol yn fy mywyd yn anfesuradwy. Gwn y gall deimlo fel na allwch roi’r gorau i hyn ond mae’n bosibl. Mae wedi bod o gymorth mawr gallu siarad ag eraill y tu allan i fy nheulu a chylch o ffrindiau a chael syniadau gan eraill ar sut i goncro’r ddibyniaeth. Yr wyf yn gobeithio drwy fod yn agored y gallaf helpu rywun sydd mewn sefyllfa debyg i fy un i. "


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Twitter Basic Square
bottom of page