Sut ddaeth hi i hyn?
- Shaun Pinney
- Feb 14, 2017
- 3 min read

Mae gan Sarah ddibyniaeth gamblo ddifrifol. Trwy chwarae ar-lein llwyddodd i guddio ei dibyniaeth gan y rhai oedd yn ei hadnabod dros gyfnod o 15 mlynedd. Fodd bynnag, wedi iddi gael ei dyfarnu'n euog a'i hanfon i garchar am drosedd i fwydo ei dibyniaeth dyma’r tro cyntaf i gyfeillion a theulu ddod yn ymwybodol o raddfa ei dibyniaeth gamblo. Mae hi nawr yn ceisio cymorth gan Stafell Fyw Caerdydd i ddelio â’i dibyniaeth. Mae Sarah yn cefnogi Mis Bach Dim Isio Bet ym mis Chwefror yn y gobaith y bydd yn annog pobl eraill i ofyn am gymorth.
Meddai Sarah, "Mae fy nibyniaeth gamblo wedi arwain i mi golli popeth. Rwyf nawr yn ddigartref ac mewn dyled. Mae cael eich arestio yn dipyn o ffordd eithafol i bobl gael gwybod bod gennyf broblem gamblo ddifrifol. Mae bellach allan yn yr agored ac rwy'n benderfynol o wneud yr hyn a allaf i atal rhywun arall rhag cyrraedd y sefyllfa yr wyf ynddi nawr.
"Dydw i ddim yn gwybod ble dechreuodd y cyfan gan nad wyf yn gwybod am unrhyw gamblwyr eraill yn y teulu, ond roedd dibyniaethau eraill. Cefais fy magu mewn amgylchedd tafarn lle roeddwn yn cael fy amgylchynu gan beiriannau ffrwythau ac efallai daeth yn eithaf normal yn y diwedd. Yr wyf yn gwybod fy mod wedi bod yn gamblo yn hir cyn i mi gael yr hawl gyfreithiol i wneud hynny.
"Wrth i mi ddechrau fy therapi rwy'n gwbl ymwybodol o gyn lleied o ferched sy’n chwilio am gymorth. Rwy'n gwybod bod llawer o fenywod yn gamblo - does dim ond angen i chi fynd i lawr i'r neuaddau bingo bob dydd i weld drosoch eich hun - ond mae'n gyfrinach gudd. Mae'n gelwydd mawr yr ydych yn ceisio'i guddio. Nid yw'n cam-drin sylweddau, felly does dim byd ffisegol y gallwch chi wir ei weld, felly fel dibyniaeth mae'n gymharol anweledig. "Mae mynediad at hapchwarae hefyd yn haws nag erioed. Tan y llynedd, doeddwn i erioed wedi bod i siop fetio, ond mae cymaint ohonynt erbyn hyn fel eu bod bron yn eich gwahodd i mewn. Rwy'n credu eu bod yn targedu pobl sy'n eithaf unig gan eu bod yn cynnig te a choffi, yn gwneud i chi deimlo'n gyfforddus ac rydych bron yn teimlo fel bod eu heisiau nhw arnoch.
"Mae dod i delerau â'r hyn yr wyf wedi ei wneud wedi bod yn erchyll. Mae cael help hefyd wedi bod yn ffordd garegog gan nad yw fy ffrindiau yn deall pam ddylwn i fod yn mynychu sesiynau grŵp dibyniaeth. Nid ydynt yn credu bod gamblo yn gaethiwed fel cyffuriau neu alcohol, ond mae'n sicr yn ddibyniaeth. Mae'r gefnogaeth gefais yn Stafell Fyw Caerdydd wedi bod yn anhygoel hyd yn hyn. Nid ydynt wedi troi cefn arnaf er i mi droi cefn arnynt hwy. Maen nhw wedi dangos i mi fod cariad allan yna a gallaf gael fy nhrin fel person unwaith eto wrth imi geisio dod 'nôl o’r dibyn.
"Un o'r pethau gorau rydw i wedi dysgu hyd yma yw sut i hunan-eithrio rhag siopau betio lleol drwy fynd ar-lein yn hytrach na gorfod mynd yn bersonol i bob un a phob siop betio. Yn sicr, nid yw hyn yn cael ei hysbysebu’n ddigon eang gan nad oeddwn hyd yn oed yn gwybod y gallech wneud hynny. Efallai y byddai pethau wedi bod yn wahanol pe bawn i yn ymwybodol o’r gwasanaeth hwn yn gynharach.
“Rwy’n cefnogi Mis Bach Dim Isio Bet ym mis Chwefror am fy mod yn meddwl ei fod yn fenter wych. Rwy'n dal i gamblo ac yn dal yn ei chael hi'n anodd torri'r cylch, ond mae'r ymgyrch hon yn rhoi pwrpas a tharged i anelu ato sydd ond yn gallu bod yn beth cadarnhaol i mi. "
コメント